
Roedd syniad Ben a Rhian o her mis Tachwedd yn wych. Yr her oedd rhoi £5.00 ac yna cerdded, rhedeg neu feicio 5K neu fwy, ac yna postio ar y cyfryngau cymdeithasol gan dagio'r elusen i gael tystysgrif.
Cymerodd bron i 80 o unigolion ran yn yr her. Gosododd llawer eu heriau personol eu hunain a chodi symiau anhygoel o nawdd.
Roedd rhai o'r heriau'n eithafol, gyda llawer yn cerdded, rhedeg neu feicio hyd at 100k a hyd yn oed taith feic noddedig o 300 milltir.
Rydym yn hynod falch o bawb sydd wedi cwblhau'r her hon er cof am Jord. Codwyd swm anhygoel – £3,600. Bydd y swm hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n helusen ac i bawb rydym yn eu helpu.
