Gan Mandy, mam Jordan
Torrwyd ein calonnau am byth
Yn 2017 torrwyd ein calonnau am byth pan gafodd ein mab hardd, Jordan, 18 oed, ei gymryd yn llawer rhy gynnar. 💙
Cafodd Jordan frwydr hir a chaled. Cafodd ddiagnosis yn 11 oed o HLH, clefyd prin ar y gwaed. Aeth drwy gemotherapi llym, steroidau dos uchel ac yn y pen draw trawsblaniad mêr esgyrn gan ei chwaer.
Yn 2015, yn 17 oed, cafodd ddiagnosis o sarcoma Ewing, canser yr esgyrn ymhlith plant a oedd wedi datblygu oherwydd y driniaeth lem yr oedd wedi'i chael o'r blaen. Unwaith eto bu'n wynebu cemotherapi diddiwedd, deg awr o lawdriniaeth fawr, a theithiodd hyd yn oed i America am radiotherapi pelydr proton. Cafodd ei adenydd angel ar 27 Ebrill 2017 ac nid yw ein bywydau erioed wedi bod yr un fath ers hynny.
Ef oedd y person cryfaf, dewraf a doniolaf, a oedd yn ymdopi â phopeth a daflwyd ato gyda gwên ar ei wyneb. Dioddefodd gymaint ond roedd yn anhunanol, yn poeni mwy am bawb arall.
Sefydlwyd Giddo’s Gift gennym i anrhydeddu ei gof, ei garedigrwydd, ei haelioni a'i wên.