
Pan fydd person ifanc yn cael triniaeth canser, maen nhw'n teimlo'n sâl yn aml, mae eu blas yn newid ac yn aml mae briwiau yn eu ceg.
Tra oedden ni yn yr ysbyty gyda Jordan, sawl gwaith aeth e am ddyddiau heb allu bwyta, ac yna byddai'n chwennych rhywbeth yng nghanol y nos pan oedd y siopau i gyd ar gau. Oherwydd ein profiad, rydyn ni wedi darparu Giddos Goodie Boxes ar bob ward yng Ngogledd Cymru lle mae pobl ifanc yn cael triniaeth canser, ac yn Unedau Canser yr Arddegau Alder Hey a Clatterbridge.
Maen nhw'n cael eu llenwi bob deufis neu ddau â diodydd, losin, siocled, creision, bariau brecwast a bisgedi, i'r bobl ifanc helpu eu hunain pryd bynnag y byddan nhw'n chwennych rhywbeth.
Yn 2019/2020 roedden ni'n ddigon ffodus i gael arian gan y loteri genedlaethol i lenwi'r blychau am flwyddyn.
