
Rydym wrth ein bodd yn rhannu newyddion anhygoel sy'n nodi carreg filltir bwysig yn ein taith fel elusen fach sy'n tyfu. Diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr People’s Postcode Lottery, ac a ddyfarnwyd gan Postcode community Trust, rydym wedi derbyn grant o £15,000yn ddiweddar.
Beth mae hyn yn ei olygu i Giddo’s Gift?
Bydd hyn yn ein galluogi i ymestyn contract ein Swyddog Datblygu Cymunedol am 12 mis arall. Diolch i'r cyllid hael hwn, gallwn barhau i ganolbwyntio ar nodau a phrosiectau hirdymor a fydd o fudd pellach i'r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi, yn ogystal ag estyn allan at hyd yn oed mwy o bobl ifanc y mae canser wedi effeithio arnynt.
Mae'r grant hwn yn dyst i waith caled, ymroddiad ac angerdd ein gwirfoddolwyr, ein cefnogwyr a'n partneriaid. Fel elusen deuluol a gafodd ei geni o alar dros 7 mlynedd yn ôl, mae'r grant hwn yn nodi pennod newydd i ni ac yn hynod bwysig i'n twf.
Roeddem yn teimlo'n hynod lwcus i dderbyn y grant cyntaf gan Wilmington Trust, a agorodd y drws i'r cyfle cyflogaeth cyflogedig hwn yn 2023. Mae'r ail grant hwn, a hwyluswyd gan The People’s Postcode Lottery, yn dangos i ni ein bod yn gwneud gwahaniaeth yn y byd ac y byddwn yn parhau i wneud hynny.
Mwy am y swydd…
Mae swydd y Swyddog Datblygu Cymunedol yn gwella'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig fel elusen, ac yn ysgafnhau rhai o'r tasgau o ddydd i ddydd i'n ymddiriedolwyr, ein llysgenhadon a'n gwirfoddolwyr gwych, y mae eu cefnogaeth wedi bod yn hanfodol. Hefyd, mae cael aelod o staff pwrpasol wedi ein galluogi i ymateb yn well i anghenion y bobl ifanc a'r teuluoedd rydym yn eu cefnogi, gan sicrhau bod ein gwasanaethau mor effeithiol ac amserol â phosibl.
Mae cyflwyno'r swydd hefyd wedi gwella ein gwaith marchnata, gan sicrhau bod ein neges yn cyrraedd y rhai sydd ei hangen fwyaf a bod ein cefnogwyr yn cael gwybod ac yn parhau i gymryd rhan.
Rydym yn hynod ddiolchgar i People’s Postcode Lottery am eu cefnogaeth, ac i bawb sydd wedi bod yn rhan o daith Giddo’s Gift.
Diolch o waelod ein calonnau x
