Apêl Kilimanjaro 2024

Pob lwc i’r pedwar gwych o’r Fflint a fydd yn mynd i’r afael â Mynydd Kilimanjaro ym mis Mehefin eleni!

Llun o'r stori hon

Bydd tîm o bedwar o Sir y Fflint yn dringo llosgfynydd 5,895m Tanzania yr haf hwn i godi arian i'r elusen sydd wedi'i lleoli yn y Fflint, Giddo's Gift.

Mae Giddo's Gift wedi gwella bywydau llawer o gleifion ifanc â chanser yng Ngogledd-orllewin Lloegr dros y saith mlynedd diwethaf. Diolch i ymroddiad pedwar ffrind lleol, bydd baner las Giddo's Gift yn hedfan yn uchel ar gopa uchaf Affrica fis Mehefin eleni, sef y pedwerydd uchaf yn y byd.

Bydd Shaun England, ei ferch Joanna Turner, ei gŵr Jamie Turner, a ffrind y teulu, Katie Kelly, yn dringo Mynydd Kilimanjaro ar 16 Mehefin. Mae pedwar y Fflint eisoes wedi pasio eu targed o £1,000 diolch i roddion gan y cyhoedd, yn ogystal â rhodd o £400 gan gyflogwr Shaun, Essity (The Paper Mill), a £100 gan y Flint Royal British Legion, lle mae Shaun yn gwirfoddoli'n rheolaidd. Mae'r tîm bellach yn apelio ar y cyhoedd am ragor o roddion i helpu i gyrraedd eu targed newydd o £2,000 i gefnogi'r elusen.

Dywedodd Shaun: “Mae hwn yn weithgaredd rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed, ac mae ei wneud dros Giddo's Gift yn ei wneud yn fwy arbennig fyth. Rydyn ni wedi adnabod y teulu ers blynyddoedd, ac mae Giddo's Gift yn ymdrech gymunedol go iawn, felly mae'n gwneud synnwyr codi arian ar gyfer apêl sy'n agos iawn at ein calonnau.

“Rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn i ymgymryd â'r her hon. Bydd yn anodd, ond bydd yn werth chweil pan fyddwn ni'n codi'r faner honno yno. Mae Joanna a Katie yn rhedeg llawer o farathonau ledled y byd, a gallaf i gerdded milltiroedd drwy'r dydd, ond ar ôl gwneud llawer o waith ymchwil am Kilimanjaro, yr uchder sy'n atal y rhan fwyaf o bobl rhag cyrraedd y copa. Rydyn ni'n bwriadu gwrando ar y tywyswyr, yfed digon o ddŵr, a chofio pwysigrwydd maeth.”

Mae'r her yn cynnwys taith gerdded bum niwrnod ar hyd Llwybr Machame, ac yna disgyniad o 1–2 ddiwrnod, gyda chymorth tywyswyr lleol. Wrth baratoi ar gyfer y daith wythnos o hyd, sy'n cynnwys gwersylla dros nos mewn tywydd ansicr, mae Shaun a'r tîm wedi bod yn brysur yn defnyddio tirwedd Gogledd Cymru fel mannau hyfforddi.

Dywedodd Shaun: “Aethon ni i fyny Moel Famau yr wythnos diwethaf, a hynny am y tro cyntaf fel tîm o bedwar. Rydyn ni'n awyddus iawn i fagu ysbryd tîm, a dyna yw hanfod Giddo's Gift. Byddwn ni'n dringo'r Wyddfa ychydig o weithiau cyn mynd hefyd, sy'n dda i ymarfer ymdopi â'r tywydd. Rydyn ni'n falch ein bod wedi archebu gyda grŵp proffesiynol, gan y byddan nhw'n cadw llygad arnon ni ac wrth law i roi cyngor meddygol. Nid taith gerdded hawdd yw hon, rydyn ni'n gwybod pa mor beryglus y gall fod a bod angen i ni ei chymryd o ddifrif, felly byddai unrhyw roddion yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.”

Rhoddwch yn gofundme.com